Sell2Wales

Amodau a Thelerau

10 Mawrth 2010

GWEFAN GAFFAEL GENEDLAETHOL

TELERAU A PHOLISI PREIFATRWYDD AR GYFER DEFNYDDWYR Y WEFAN

  • 1. Y TELERAU

    • 1.1 Mae’r telerau defnyddwyr hyn yn berthnasol i ddefnyddwyr www.gwerthwchigymru.co.uk, www.prynwchigymru.co.uk a www.xchangewales.co.uk (yn y telerau hyn, cyfeirir at unrhyw un o’r gwefannau hyn fel y "Wefan"). Darperir y Wefan i alluogi sefydliadau (ac unigolion sy’n gweithredu ar ran eu busnes) i bori a gweld y wybodaeth a gedwir ar y Wefan, ac mae’n nodi sut mae cael mwy o wybodaeth gennym (y "Gwasanaeth").
    • 1.2 Cyn i chi gael defnyddio’r Gwasanaeth, mae’n rhaid i chi dderbyn yr amodau a thelerau hyn a’n polisi preifatrwydd (a amlinellir yn Adran 3 isod, a gall amrywio o bryd i’w gilydd yn unol ag adran 14) (y "Telerau Defnyddwyr"). Gellir diweddaru’r Telerau Defnyddwyr hyn unrhyw bryd, gyda rhybudd neu heb rybudd, a rhoddir y fersiwn diweddaraf ar y Wefan. Mae Adran 10 y Telerau Defnyddwyr hyn yn amlinellu ymwrthodiadau penodol o’n hatebolrwydd i chi.
    • 1.3 Lle mae’r Telerau Defnyddwyr hyn yn cyfeirio at "Ni neu Ein", rydym yn golygu Gweinidogion Cymru Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ynghyd â’u gweithwyr cyflogedig, eu hasiantau a’u contractwyr). Lle mae’r Telerau Defnyddwyr hyn yn cyfeirio at "Chi neu Eich", rydym yn golygu chi, y sawl sydd am ddefnyddio’r Gwasanaethau (neu’r sefydliad rydych chi’n ei gynrychioli neu’n gweithio iddo).
  • 2. EICH RHWYMEDIGAETHAU

    • 2.1 Rydych chi’n cytuno (lle bo angen) i ddarparu gwybodaeth gywir, gyfredol a chyflawn am eich hun ac i ddiweddaru’r wybodaeth a ddarperir yn brydlon fel ei bod yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn. Os byddwch chi’n darparu unrhyw wybodaeth sy’n anghywir, yn anghyfredol neu’n anghyflawn (neu os yw’n rhesymol i ni amau bod gwybodaeth a ddarperir gennych yn anghywir, yn anghyfredol neu’n anghyflawn), mae gennym hawl i atal neu derfynu’ch defnydd o’r Gwasanaeth.
    • 2.2 Trwy gofrestru ar y Wefan hon, rydych chi’n cadarnhau bod gennych chi’r awdurdod i weithredu ar ran y sefydliad rydych chi’n ei gynrychioli.
  • 3. POLISI PREIFATRWYDD

    • 3.1 Byddwn yn casglu data gennych (i) pan fyddwch chi’n cofrestru’ch manylion ar y Wefan (ee fel y gallwn ni anfon gwybodaeth atoch, nawr neu yn y dyfodol) a (ii) thrwy ddyfeisiau casglu data sy’n defnyddio cwcis. Gall y data a gasglwn fod yn ddata personol a gall gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfeiriad cartref. Gallwn hefyd ofyn am eich rhif ffôn fel y gallwn ni gysylltu â chi os oes problem. Mae Tollau Tramor a Chartref EM yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gadw a chasglu gwybodaeth am y wlad rydych chi’n byw ynddi. Trwy ddatgelu gwybodaeth bersonol i ni, rydych chi’n caniatáu i ni gasglu, cadw a phrosesu gwybodaeth fel yr amlinellir yn y Telerau Defnyddwyr hyn.
    • 3.2 Ym amodol ar Gymal 3.5, rydym yn defnyddio cwcis ar y Wefan ond nid ydym yn dibynnu arnynt. Gallwch ddiffodd ein cwcis ar eich cyfrifiadur. Nid ydym yn defnyddio manylion sy’n ymwneud â chyfeiriad Protocol Rhyngrwyd cyfrifiadur penodol er mwyn gweinyddu’r Wefan neu i ddilyn symudiadau Defnyddwyr trwy’r Wefan. Fodd bynnag, rydym yn cofnodi gwybodaeth benodol am ddefnydd o’r Wefan ar ein systemau mewnol ein hunain. Defnyddir y wybodaeth hon i’n galluogi ni i weinyddu’r Wefan, i gywiro gwallau ac i gadw manylion defnyddiwr sydd wedi ychwanegu at wybodaeth neu ddiwygio gwybodaeth mewn archif benodol. Gallwn hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i gysylltu â chi mewn argyfwng.
    • 3.3 Rydym yn cadw hysbysiadau dilys o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Yn amodol ar adran 3.5, nid ydym yn rhannu, yn gwerthu nac yn rhentu’ch gwybodaeth i unrhyw unigolyn, cwmni na sefydliad arall mewn unrhyw ffordd, ac eithrio fel y nodwyd wrth gasglu’r wybodaeth. Mae gennych chi hawl i ddewis peidio â chaniatáu i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Wefan pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth. Os na fyddwch chi wedi dewis peidio â gwneud hynny, gallwch newid eich meddwl, a hynny ar unrhyw adeg.
    • 3.4 Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu’ch gwybodaeth all-lein. Dim ond y gweithwyr cyflogedig hynny sydd angen y wybodaeth er mwyn cyflawni eu swydd neu gontractwyr trydydd parti a gyflogir gennym i atgyweirio neu addasu’r Wefan, neu i gynghori ar ei gweithrediad, fydd yn cael gweld y wybodaeth. Bydd rhaid i bob contractwr trydydd parti gydymffurfio â’n polisi cyfrinachedd. Mae ein gweithdrefnau diogelwch ar gyfer cadw a datgelu gwybodaeth am gwsmeriaid yn cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 1998. Pan fydd y Wefan yn cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill, dylech nodi nad ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd nac am bolisïau perchnogion a gweithredwyr y gwefannau hynny. Felly, rydym yn eich annog i ddarllen y polisïau a’r datganiadau preifatrwydd ar bob gwefan lle gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol.
    • 3.5 Heblaw pan fydd hi’n ofynnol yn gyfreithiol, dim ond at ddibenion gwella’u prosesau caffael y byddwn yn rhannu’ch data gyda chyrff sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • 4. DEFNYDDIO’R GWASANAETH

    • 4.1 Rydych chi’n deall mai’r sawl a gynhyrchodd unrhyw wybodaeth, data, testun, ffotograffau, graffeg, sain, fideos, negeseuon neu ddeunydd arall ("Cynnwys"), boed yn gyhoeddus neu’n breifat, sy’n gyfrifol am y Cynnwys hwnnw. Mae hyn yn golygu mai chi a defnyddwyr eraill y Gwasanaeth, ac nid ni, sy’n gwbl gyfrifol am yr holl Gynnwys sy’n cael ei uwchlwytho, ei roi, ei e-bostio, ei drosglwyddo a’i ddarparu trwy’r Gwasanaeth.
    • 4.2 Nid ydym yn rheoli’r Cynnwys a gynhyrchir trwy’r Gwasanaeth ac, fel y cyfryw, nid ydym yn gwarantu cywirdeb, cyfanrwydd nac ansawdd Cynnwys o’r fath. Mae’n bwysig eich bod yn deall y gallwch chi ddod ar draws Cynnwys cas, anweddus neu annymunol wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth. Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw ffordd nac o dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw Gynnwys, gan gynnwys unrhyw wallau neu esgeulustod mewn unrhyw Gynnwys neu unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i’r defnydd o unrhyw Gynnwys sy’n cael ei roi, ei e-bostio, ei drosglwyddo neu ei ddarparu trwy’r Gwasanaeth.
    • 4.3 Rydych chi’n gwarantu ac yn addo i ni na fyddwch yn defnyddio’r Gwasanaeth at unrhyw ddiben sy’n anghyfreithlon neu a waherddir gan y Telerau Defnyddwyr hyn. Yn arbennig, rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio’r Gwasanaeth ar gyfer: -
      • 4.3.1 rhoi, trosglwyddo, rhestru neu uwchlwytho unrhyw gynnwys anghyfreithlon, niweidiol, bygythiol, sarhaus, aflonyddol, difrïol, aflednais neu anweddus neu unrhyw gynnwys sy’n gas, hiliol neu’n annymunol yn foesegol neu fel arall, neu’n torri ar breifatrwydd unigolyn neu’n amharu ar y Gwasanaeth mewn unrhyw ffordd (yn ein barn ni);
      • 4.3.2 trin neu ddiwygio dangosyddion er mwyn cuddio tarddiad unrhyw ohebiaeth a drosglwyddir trwy’r Gwasanaeth;
      • 4.3.3 aflonyddu neu amharu ar weithrediad y Gwasanaeth, y wefan sy’n cynnal y Gwasanaeth neu unrhyw weinyddwyr neu rwydweithiau sy’n gysylltiedig â’r wefan hon;
      • 4.3.4 mynd yn groes i unrhyw rai o gyfreithiau Cymru a Lloegr;
      • 4.3.5 atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ailwerthu neu ecsploetio unrhyw ran o’r Gwasanaeth, defnydd o’r Gwasanaeth neu fynediad i’r gwasanaeth at unrhyw ddibenion masnachol, neu
      • 4.3.6 gasglu neu gadw data personol ar ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth.
    • 4.4 Rydych chi’n cydnabod nad ydym yn prawfddarllen Cynnwys, ond bydd gennym ni a’r bobl a benodir gennym yr hawl (ond nid y rhwymedigaeth), yn ôl ein disgresiwn neu eu disgresiwn (fel sy’n briodol), i ddileu neu symud unrhyw Gynnwys sydd ar gael trwy’r Gwasanaeth. Heb gyfyngu ar yr hyn a nodwyd uchod, bydd gennym ni a’r bobl a benodir gennym hawl i ddileu unrhyw Gynnwys sy’n mynd yn groes i’r Telerau Defnyddwyr, yn torri neu’n debyg o dorri deddfwriaeth neu unrhyw reoliadau, safonau neu godau ymarfer perthnasol eraill, yn gwneud niwed i’n henw da mewn unrhyw ffordd neu sy’n annymunol (yn ôl ein disgresiwn). Rydych chi hefyd yn cytuno i werthuso’r defnydd o unrhyw Gynnwys, ac ysgwyddo unrhyw risgiau cysylltiedig, gan gynnwys unrhyw ddibyniaeth ar gywirdeb, cyflawnrwydd neu ddefnyddioldeb Cynnwys o’r fath.
    • 4.5 Rydych chi’n cydnabod ac yn cytuno y gallwn ni gadw Cynnwys a’i ddatgelu os bydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu o wybod bod datgelu Cynnwys o’r fath yn rhesymol angenrheidiol er mwyn: (a) cydymffurfio â’r broses gyfreithiol, (b) gorfodi’r Telerau Defnyddwyr, (c) ymateb i hawliadau bod unrhyw Gynnwys yn troseddu yn erbyn hawliau trydydd partïon, neu (d) ddiogelu ein hawliau, ein heiddo neu ein diogelwch personol, neu hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol defnyddwyr y Gwasanaeth neu unrhyw drydydd parti.
    • 4.6 Rydych chi’n deall y gall gwaith trosglwyddo a phrosesu technegol y Gwasanaeth, gan gynnwys eich Cynnwys, gynnwys (a) trosglwyddo dros wahanol rwydweithiau, a (b) newidiadau i gydymffurfio â gofynion technegol ac i addasu i ofynion technegol mewn perthynas â chysylltu rhwydweithiau neu ddyfeisiau.
    • 4.7 Rydych chi’n cadarnhau, os yw’n rhesymol i ni gredu na all defnyddiwr gael mynediad i’w fanylion cofrestredig ar y Wefan am ryw reswm, y gallwn ni addasu, archifo neu ddileu’r manylion hyn fel y dymunwn.
    • 4.8 Rydych chi’n cydnabod nad yw’r ffaith eich bod yn defnyddio’r Wefan ac yn cofrestru’ch manylion yn golygu ein bod yn eich ardystio chi neu’ch sefydliad neu unrhyw rai o’i gynhyrchion neu ei wasanaethau mewn unrhyw ffordd, ac ni fyddwch yn cyfeirio at unrhyw ardystiad gennym oni bai eich bod wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig.
    • 4.9 Byddwch yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl am unrhyw Gynnwys rydych chi’n credu ei fod yn mynd yn groes i’r Telerau Defnyddwyr.
  • 5. PERCHNOGAETH A’R DEFNYDD O HAWLIAU PERCHNOGOL

    • 5.1 Ni sydd piau pob hawlfraint ar nodweddion y Gwasanaeth (gan gynnwys, heb gyfyngiad, gynllun y wefan a phob logo, testun a graffeg ar y wefan) ac eithrio nodweddion sy’n eiddo i drydydd partïon.
    • 5.2 Ni sydd hefyd piau’r holl feddalwedd a ddefnyddir mewn perthynas â’r Gwasanaethau, ac eithrio meddalwedd sy’n eiddo i drydydd partïon (y "Feddalwedd").
    • 5.3 Byddwn yn rhoi hawl a thrwydded (neu is-drwydded yn achos hawliau trydydd parti sydd wedi’u trwyddedu i ni) bersonol na ellir ei throsglwyddo ac nad yw’n gynhwysol i ddefnyddio cod gwrthrych y Feddalwedd at ddiben defnyddio’r Feddalwedd, cyn belled nad ydych chi’n copïo, addasu, creu gwaith deilliadol, dadbeiriannu, dadgydosod nac yn ceisio canfod unrhyw un o godau ffynhonnell y Feddalwedd neu werthu, neilltuo, is-drwyddedu, caniatáu buddiant diogelwch neu drosglwyddo unrhyw hawl yn y Feddalwedd (nac yn caniatáu i unrhyw drydydd parti wneud hynny).
    • 5.4 Ni sydd piau’r hawliau ar gyfer enwau a logos "gwerthwchigymru", "Prynwchigymru" a "XchangeWales" ac ni allwch chi ddefnyddio’r enwau na’r logos hyn mewn unrhyw lenyddiaeth hysbysebu neu hyrwyddo heb ganiatâd ysgrifenedig.
    • 5.5 Mewn perthynas â’ch Cynnwys, rydych chi’n cyflwyno trwydded barhaol heb freindal nad yw’n anghynhwysol ac na ellir ei dirymu ar gyfer defnyddio’r hawliau eiddo deallusol yn eich Cynnwys i’n galluogi ni i arddangos eich Cynnwys a’i ddefnyddio’n unol â’r Telerau Defnyddwyr hyn.
    • 5.6 Os hoffech chi arddangos unrhyw gynnwys o wefan www.gwerthwchigymru.co.uk, byddwn yn cyflwyno trwydded ddirymiadwy heb freindal nad yw’n anghynhwysol ar gyfer gwneud hynny mewn perthynas â’n hawlfraint yn y cynnwys hwnnw ar yr amod eich bod hefyd yn arddangos cadarnhad bod y cynnwys wedi deillio o’r Wefan honno.
  • 6. INDEMNIAD

    Trwy hyn, rydych chi’n cytuno i’n hindemnio ni neu unrhyw rai o’n swyddogion, gweithwyr cyflogedig, asiantau, isgontractwyr a chwmnïau cyswllt rhag unrhyw gostau, hawliadau, colledion, difrod neu atebolrwydd a threuliau (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol) a wneir gan unrhyw drydydd parti mewn unrhyw awdurdodaeth o ganlyniad neu sy’n deillio o’ch defnydd o’r Gwasanaeth, eich cysylltiad â’r Gwasanaeth, neu unrhyw achos o dorri’r Telerau Defnyddwyr gennych neu unrhyw achos arall o dorri unrhyw hawliau trydydd parti gennych chi.

  • 7. ADDASU, GWAHARDD A THERFYNU GWASANAETH

    • 7.1 Rydym yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i’w gilydd yn ôl ein disgresiwn a chyda neu heb rybudd i addasu neu derfynu’r Gwasanaeth (neu unrhyw ran ohono) neu eich defnydd o’r Gwasanaeth, dros dro neu’n barhaol. Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi neu unrhyw drydydd parti am unrhyw achos o addasu, gwahardd neu derfynu’r Gwasanaeth.
    • 7.2 Mae ein hawliau o dan yr adran hon yn ychwanegiad i’n holl hawliau a’n rhwymedïau ac nid yw’n eu tanseilio.
  • 8. DEFNYDDIO A CHADW

    Rydych chi’n cytuno nad ydym yn gyfrifol nac yn atebol am ddileu neu fethu â chadw unrhyw negeseuon a chysylltiadau eraill a gedwir neu a drosglwyddir gan y Gwasanaeth. Rydych chi hefyd yn cydnabod ein bod yn cadw’r hawl i newid yr arferion cyffredinol hyn yn ôl ein disgresiwn gyda neu heb rybudd.

  • 9. CYSYLLTIADAU TRYDYDD PARTI

    O bryd i’w gilydd, hwyrach y bydd y Gwasanaeth yn cynnwys cysylltiadau i wefannau a weithredir gan bartïon eraill. Darperir y cysylltiadau hyn er cyfleustra yn unig a chânt eu darparu naill ai gennym ni neu gan ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth. Nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau hyn ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau o’r fath. Trwy gynnig y cysylltiadau hyn i chi, nid ydym yn ardystio, yn oblygedig nac yn ddatganedig, unrhyw beth sydd wedi’i gynnwys ar wefannau o’r fath ac nid oes gennym unrhyw gysylltiad â gweithredwyr gwefannau o’r fath. Rydym hefyd yn eithrio atebolrwydd am unrhyw ddeunydd anghywir, sarhaus, difrïol neu anweddus sy’n ymddangos ar y gwefannau hyn.

  • 10. YMWRTHODIAD GWARANTAU

    • 10.1 Rydych chi’n deall ac yn cytuno eich bod yn defnyddio’r Gwasanaethau ar eich risg eich hun. Darperir y Gwasanaeth "fel y mae" ac "fel y mae ar gael". Nid ydym yn gwneud unrhyw warantau mewn perthynas â’r Gwasanaeth, boed yn oblygedig neu’n ddatganedig, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i warantau mewn perthynas ag ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol [y defnydd o Ofal a Medr rhesymol] a diffyg trosedd.
    • 10.2 Yn enwedig, nid ydym yn gwarantu (i) y bydd y Gwasanaeth yn bodloni’ch gofynion, (ii) y bydd y Gwasanaeth yn ddi-dor, yn amserol, yn ddiogel neu’n rhydd o wallau, (iii) y bydd y canlyniadau o ganlyniad i’ch defnydd o’r Gwasanaeth yn gywir neu’n ddibynadwy, (iv) y bydd ansawdd unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau, gwybodaeth neu unrhyw ddeunydd arall a geir trwy’r Gwasanaeth yn bodloni’ch disgwyliadau, (v) y bydd unrhyw wallau yn y Feddalwedd yn cael eu cywiro, ac (vi) y bydd y Wefan yn rhydd o firysau neu na fydd yn cynnwys unrhyw beth a all fod â nodweddion dinistriol.
    • 10.3 Bydd unrhyw gynnwys rydych yn ei uwchlwytho neu’n ei gael trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth yn cael ei wneud yn ôl eich disgresiwn ac ar eich risg eich hun ac rydych chi’n deall ac yn cytuno mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’ch system gyfrifiadurol neu golli data o ganlyniad i lwytho unrhyw gynnwys o’r fath.
    • 10.4 Heb danseilio darpariaethau eraill yn Adran 10, nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychiolaethau o ran y wybodaeth a roddir ar y Wefan (naill ai mewn perthynas â’i chywirdeb, ei digonolrwydd, ei chyflawnrwydd neu fel arall) a chi sy’n gyfrifol am geisio’ch cyngor annibynnol eich hun cyn dibynnu arni a hefyd ar gyfer unrhyw ddefnydd a wnewch ohono.
  • 11. CYFYNGU AR ATEBOLRWYDD

    Ni fyddwn yn atebol am unrhyw iawndal sy’n codi o ganlyniad i’ch defnydd o’r Gwasanaeth, gan gynnwys iawndal am golli data, colli elw neu golled sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gwasanaeth neu berfformiad y Gwasanaeth neu am yr oedi neu’r anallu i ddefnyddio’r Gwasanaeth neu am wybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau a geir trwy’r Gwasanaethau, ond ni fydd unrhyw beth o dan y Telerau Defnyddwyr yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am unrhyw ddatganiad twyllodrus neu am anaf personol neu farwolaeth o ganlyniad i’n hesgeulustod.

  • 12. GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU

    Nid yw rhai awdurdodiadau’n caniatáu ar gyfer eithrio rhai gwarantau neu gyfyngu ar neu eithrio atebolrwydd am ddifrod damweiniol neu ganlyniadol. Efallai na fydd rhai o gyfyngiadau Adrannau 10 ac 11 yn berthnasol i chi o ganlyniad.

  • 13. CYFFREDINOL

    • 13.1 Byddwn yn derbyn hysbysiadau mewn e-bost neu drwy’r post. Gall y Gwasanaeth ddarparu hysbysiadau am newid i Delerau Defnyddwyr neu faterion eraill trwy arddangos hysbysiadau neu gysylltiadau i hysbysiadau i chi’n gyffredinol ar y Gwasanaeth.
    • 13.2 Ni fydd unrhyw achos o dorri Telerau Defnyddwyr gennych chi sy’n cael ei ddiystyru gennym ni yn cael ei ystyried fel hawliad mewn unrhyw achos pellach o dorri telerau’r un ddarpariaeth neu unrhyw ddarpariaeth arall.
    • 13.3 Bydd y Telerau Defnyddwyr yn rheoli’ch mynediad i’r Gwasanaeth ac ni fydd unrhyw amodau a thelerau eraill yn berthnasol.
    • 13.4 Os bydd unrhyw ddarpariaeth o’r Telerau Defnyddwyr hyn neu ran ohonynt yn ddi-rym am unrhyw reswm, bydd y geiriau tramgwyddus yn cael eu hystyried fel eu bod wedi’u dileu a’r darpariaethau sy’n weddill yn parhau mewn grym yn llawn.
    • 13.5 Mae’ch hawliau a’ch rhwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddwyr hyn yn bersonol i chi ac rydych yn cytuno na fyddwch ac nad ydych yn bwriadu neilltuo, prydlesu, codi tâl, is-drwyddedu neu drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau o’r fath fel arall yn gyflawn neu’n rhannol.
    • 13.6 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau Defnyddwyr hyn (fel y’u diwygir gennym o bryd i’w gilydd) yn creu unrhyw hawl neu fudd ar gyfer unrhyw drydydd parti o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedi trydydd parti sy’n bodoli neu sydd ar gael heblaw o dan y Ddeddf honno.
    • 13.7 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled y byddwch yn ei chael neu’n cael ein hystyried ar fai am unrhyw oedi neu fethiant mewn perfformiad sy’n ganlyniad i weithredoedd neu achosion y tu hwnt i’n rheolaeth resymol neu unrhyw weithredoedd Dwyfol, gweithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol neu os nad yw’n gweinyddwr yn gweithio.
    • 13.8 Mae penawdau adrannau wedi’u cynnwys er hwylustod yn unig ac ni fyddant yn effeithio ar ddehongliad y Telerau Defnyddwyr hyn.
    • 13.9 Bydd y Telerau Defnyddwyr hyn yn cael eu llywodraethu gan ddeddfau Cymru a Lloegr ac rydych chi a ni’n cytuno i ufuddhau i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr a neb arall.
  • 14. DIWEDDARU TELERAU DEFNYDDWYR

    Gallwn newid y Telerau Defnyddwyr trwy roi amodau a thelerau newydd ar y Wefan. Chi fydd yn gyfrifol am adolygu’r Telerau Defnyddwyr yn rheolaidd i sylwi ar newidiadau o’r fath. Ar ôl unrhyw newid, y Telerau Defnyddwyr a arddangosir ar y Wefan fydd yn berthnasol a bydd defnyddio’r Wefan ar ôl unrhyw newid o’r fath yn golygu eich bod wedi derbyn y Telerau Defnyddwyr newydd.

  • 15. ANGHYDFOD

    Os hoffai unrhyw ddefnyddiwr gyflwyno cwyn am y Gwasanaeth, fe’i hanogir i anfon e-bost i complaints@sell2wales.co.uk neu i ysgrifennu at y Rheolwr, GwerthwchiGymru, Plas Glyndŵr, Ffordd y Brenin, Caerdydd CF10 3AH gyda’r nod o ddatrys y mater. Nid yw hyn yn effeithio ar hawliau defnyddiwr y Gwasanaeth mewn unrhyw ffordd.

  • 16. CYFRAITH REOLI

    Rheolir yr Telerau Defnyddwyr hyn yn unol â deddfau Cymru a Lloegr fel y’u defnyddir yng Nghymru.

Cofrestru

Ar ôl i chi gofrestru, bydd prynwyr yn gallu dod o hyd i'ch cwmni.

Cofrestrwch yma »

Mewngofnodwch »

Wyddoch chi?

Gallwch gofrestru aelodau eraill o'ch cwmni ar gwerthwchigymru er mwyn iddyn nhw allu derbyn e-bost dyddiol am gyfleoedd newydd, gweld yr hysbysiadau diweddaraf am dendrau ac ennill mwy o fusnes i chi. 

Pam na rowch chi rywun o'r adran Gyllid, Gwerthiannau neu Ddatblygu Busnes ar y rhestr?  I ychwanegu defnyddwyr newydd, mewngofnodwch ac ewch i Golygu'ch Proffil

Golygu'ch proffil