Sell2Wales

Newyddion

Canllaw newydd i helpu busnesau i gystadlu am Gontractau ar gyfer Llundain 2012


28 Mehefin 2007

Heddiw, cyhoeddodd Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd Ganllaw newydd i Gyflenwyr. Y nod yw helpu busnesau i baratoi ar gyfer cystadlu am hyd at 50,000 o gyfleoedd sy'n helpu i gyflenwi'r lleoliadau a'r seilwaith ar gyfer Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012.

Mae'r canllaw syml yn amlinellu sut y bydd yr Awdurdod yn prynu ac yn rheoli hyd at 2000 o gontractau uniongyrchol â busnesau a fydd yn eu tro yn rheoli hyd at 50,000 o gytundebau ar draws eu cadwyni cyflenwi eu hunain. Yn ddiweddarach eleni, caiff gwasanaeth ei lansio i helpu cwmnïau, yn enwedig cwmnïau bach a chanolig, i ddod o hyd i gyfleoedd yn y cadwyni cyflenwi hyn sy'n debygol o ddod yn rhan o'r ffrwd ariannu yn 2008.

Wrth lansio'r canllaw yn y sioe deithiol Ymrwymo i Adeiladu 2012 ym Mryste heddiw, meddai Morag Stuart, Pennaeth Caffael yr Awdurdod:

"Rydym yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gyda'r goreuon ym myd busnes er mwyn darparu'r lleoliadau a'r seilwaith sydd eu hangen ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, gan gyfrannu at dreftadaeth gynaliadwy.

"Er mwyn sicrhau perfformiad busnes gyda'r gorau yn y byd, bydd rhaid i'n proses gaffael ni fod yn agored, yn dryloyw ac yn deg. Nod y canllaw hwn yw helpu busnesau o bob maint ledled y DU i gefnogi'r Gemau ac elwa o bosib ar eu llwyddiant.

Pwrpas y canllaw yw helpu cwmnïau i baratoi ar gyfer cymryd rhan ym mhroses gaffael Awdurdod Gweithredu'r Gemau. Os byddant yn gymwys, byddant wedyn yn gwneud cais am gyfleoedd busnes. Mae hefyd yn disgrifio'r meini prawf a'r gwerthoedd y bydd yr Awdurdod yn rhoi ystyriaeth iddynt wrth ystyried y ceisiadau ac yn amlinellu sut y mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r un gwerthoedd, megis perfformiad ar iechyd a diogelwch a chynaladwyedd, gael eu rhoi ar waith trwy gadwyni cyflenwi ei gontractwyr. 

Lansiwyd y Canllaw i Gyflenwyr i fusnesau heddiw - y cyntaf mewn cyfres o sioeau teithiol Ymrwymo i Adeiladu 2012. Yr Awdurdod, yr Adran Masnach a Diwydiant, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru sy'n noddi'r sioeau hyn er mwyn cynnig cyfle i fusnesau ddysgu mwy am y fenter Ymrwymo i Adeiladu 2012 a mentrau eraill sy'n ceisio hybu arferion gorau yn y diwydiant adeiladu. Mae'r sioeau hyn hefyd yn gyfle i fusnesau ledled y wlad drafod cyfleoedd ar gyfer cadwyni cyflenwi â staff o Awdurdod Gweithredu'r Gemau a'i Bartner Gweithredu.

Er mwyn helpu cwmnïau i nodi'r cyfleoedd hyn, bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi rhestr lawn o'i gontractwyr uniongyrchol ar wefan Llundain 2012, yn ystod y misoedd i ddod. Hefyd, bydd gwasanaeth yn cael ei lansio yn yr hydref i helpu cwmnïau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Bydd manylion llawn yn ymddangos mewn canllaw diwygiedig i gyflenwyr.

Notes to Editors:

- The ‘Supplier guide’ can be downloaded at www.london2012.com/business

- To be notified of upcoming 2012 Construction Commitment roadshows and other London 2012 procurement news please register for the e-alert service at www.london2012.com/business


Cofrestru

Ar ôl i chi gofrestru, bydd prynwyr yn gallu dod o hyd i'ch cwmni.

Cofrestrwch yma »

Mewngofnodwch »

Are you looking for potential Construction Opportunities?

Wyddoch chi?

Gallwch gofrestru aelodau eraill o'ch cwmni ar gwerthwchigymru er mwyn iddyn nhw allu derbyn e-bost dyddiol am gyfleoedd newydd, gweld yr hysbysiadau diweddaraf am dendrau ac ennill mwy o fusnes i chi. 

Pam na rowch chi rywun o'r adran Gyllid, Gwerthiannau neu Ddatblygu Busnes ar y rhestr?  I ychwanegu defnyddwyr newydd, mewngofnodwch ac ewch i Golygu'ch Proffil

Golygu'ch proffil