Mae derbyn ITT yn caniatáu i chi anfon eich cynnig am dendr sector cyhoeddus Cymru.
Byddwch ond yn derbyn dogfennau ITT os ydych wedi gwneud cais amdanynt yn uniongyrchol fel rhan o ddull agored, neu yn dilyn proses cyn cymhwyso (gweler PQQ) fel rhan o ddull cyfyngedig. Gallai'r wybodaeth yn y dogfennau ITT a anfonir atoch gynnwys:
- Llythr ffurfiol o wahoddiad i dendro
- Gwybodaeth cefndir
- Cyfarwyddiadau - yn cynnwys dyddiad cau a gofyniadau cyflwyniad
- Manyleb - manylion o beth a brynir, yn cynnwys unrhyw gynnyrch arbennig neu ofyniadau gwasanaeth
- Prisio a thempledi amserlen darparu
- Telerau ac Amodau'r prynwr
- Detholiad a meini prawf dyfarnu
Pan ydych yn darllen drwy'r dogfennau bydd angen i chi gofyn i'ch hun "a ddylwn anfon tendr?" Darllenwch y dogfennau sawl gwaith, gwneud nodiadau ac archwiliwch y gofyniadau yn ofalus. Dylech ond wneud cais am gytundeb mae gennych siawns rhesymol o ennill ac y gallwch gyflawni o fewn termau'r cytundeb.
Os ydych yn penderfynu na fyddwch yn ymateb i ITT, gadewch wybod i'r prynwr. Mae'n gwrtais ac yn helpu nhw i ymatebion ac mae'n bosibl y byddent yn gwsmer pwysig yn y dyfodol.
Os ydych yn penderfynu anfon cynnig, yna mae'n bryd i chi rhoi'r tendr at ei gilydd.