Pan gyhoeddir tendrau yng Nghymru, mae'n rhaid i'r prynwr rhoi wybod i chi ynglŷn â'r dull ar gyfer y dyfarniad cytundeb.
Ar hyn o bryd mae yna bedwar dull dyfarnu ar gyfer tendrau sector cyhoeddus Cymru a thendrau UE. Rhain ydy:
- Gweithdrefn Agored - Mae hyn yn broses tendro ffurfiol ble y gallwch wneud cais am ddogfennau tendr ac anfon tendr mewn ymateb i hysbysiad cytundeb hysbysedig. Dylech werthuso eich siawns o lwyddiant cyn anfon tendr gan na fyddwch yn gwybod pa mor gryf yw'r gystadleuaeth.
Amser i Ymateb: 52 diwrnod oddi o gyhoeddiad.
- Dull Cyfyngedig - Mae hyn yn ddull mewn dwy ran sy' n cychwyn gyda chi'n datgan eich mynegiant o ddiddordeb a gwneud cais am holiadur cyn Gymhwyso (gweler PQQ). Dim ond os mae'ch PQQ cyflawn yn dangos eich bod yn alluog, y bydd Gwahoddiad i Dendro llawn yn cael ei gyflwyno (Gweler ITT), gan hynny rydym yn defnyddio'r term 'dull cyfyngedig'.
Amser i Ymateb: 37 diwrnod ar gyfer mynegiannau diddordeb a lleiafrif o 40 diwrnod pellach i anfon eich tendr
- Dull Trafod - Mae'r dull hwn yn caniatáu i brynwyr ymgynghori gyda chyflenwyr cyn-gymwysedig a thrafod telerau'r cytundeb. Defnyddir yn unig pan mae cymhlethdod y prosiect yn ei gwneud hi'n amhosibl llunio manyleb fanwl, neu pan mae'r cytundeb am resymau R&D.
Amser i ymateb: 37 diwrnod ar gyfer mynegiannau o ddiddordeb.
- Deialog Cystadleuol - Mae'r dull hwn ar gael ar gyfer caffaeliadau cymhleth pan yr ystyrir bod naill ai'r dulliau Agored neu Gyfyngedig yn caniatáu ar gyfer dyfarniad y cytundeb. Mae'r dull hwn yn caniatáu i brynwyr ymrwymo i ddeialog gyda chyflenwyr cyn cyrchu tendrau terfynol iddynt.
Amser i ymateb: 37 diwrnod ar gyfer mynegiannau o ddiddordeb.
Gellir byrhau unrhyw un o'r amserlenni hyn, ond fel arfer mae hyn ond yn cael ei wneud os gyhoeddwyd rhaghysbysiad gwybodaeth yn flaenorol. Cyhoeddwyd PINS gan brynwyr i hysbysu i gyflenwyr eu bwriadau ar gyfer cynlluniau caffael y dyfodol. Eu bwriad yw sicrhau bod gennych gymaint o amser a phosibl i baratoi ar gyfer cyfranogiad.