Bydd deall y broses yn helpu chi i ddechrau agor drysau ac ennill cytundebau yng Nghymru.
Mae'r sector cyhoeddus yn prynu cynnyrch a gwasanaethau oddi wrthoch chi drwy ddilyn proses. Mae'r rhestr isod yn amlinellu camau allweddol yng nghylch oes nodweddiadol tendrau sector cyhoeddus Cymru:
1. Diffinio'r strategaeth caffael
Mae'r prynwr yn diffinio eu bwriadau, yn penderfynu beth sydd angen, yn paratoi'r achos busnes ac yna'n penderfynu sut bydd yr ymarfer caffael yn cael ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys dewis y fath o gytundeb (gweler 'Mathau o gytundeb') a'r dull gwobrwyo (gweler 'Dulliau gwobrwyo').
2. Gwahodd tendrau
Mae'r prynwr yn gwahodd cyflenwyr drwy ddefnyddio GwerthwchiGymru. Mewn rhai achosion, bydd angen i chi cyn gymhwyso (gweler 'PQQ') cyn cael eich gwahodd i dendro (gweler 'ITT').
3. Gwerthuso a mireinio tendrau
Mae'r prynwr yn gwerthuso'r tendrau yn erbyn safonau penodol sy'n ymwneud â gwerth am arian. Mae'r broses fel arfer yn cynnwys cyfnod o egluro'r tendr cyn iddo gael ei dderbyn.
4. Dyfarnu'r Cytundeb
Mae'r prynwr yn dyfarnu'r cytundeb i'r cyflenwr sydd a'i gynnig yn rhoi gwerth am arian.
5. Rheoli'r cytundeb
Mae'r cyflenwr a'r prynwr yn rheoli'r cytundeb ac mae perfformiad y cyflenwr yn cael ei wirio a'i monitro gan y sefydliad.