Sell2Wales

Manteision Cofrestru gyda Constructionline

30 Gorffenaf 2010

Constructionline – Hwyluso'r broses gyn-gymhwyso

Ydy ffurflenni cyn-gymhwyso’n faich i chi?  Fyddai’n well gennych chi dreulio llai o amser ar waith papur a mwy o amser yn ennill contractau?

Cofrestr genedlaethol y Llywodraeth o gyflenwyr adeiladu neu adeiladu-gysylltiedig sydd wedi’u cyn-gymhwyso yw Constructionline ac mae'n cynnwys dros 8,000 o brynwyr sy’n defnyddio’r gronfa ddata’n rheolaidd er mwyn nodi rhestr fer o gyflenwyr.

Rydym ar gael i wneud y broses gyn-gymhwyso adeiladu yn haws i chi.  Drwy anfon eich data cyn-gymhwyso atom ni, gallwn ei wirio a’i storio ar ein system.  Unwaith y caiff ei gyhoeddi, bydd ar gael i brynwyr y sector cyhoeddus ei ddarllen unrhyw bryd gan arbed yr angen iddynt wneud cais i chi amdano eto. Bydd hyn yn rhyddhau eich amser i ganolbwyntio ar faterion mwy difrifol sef ennill contractau.

Gallwn ddarparu’r adnoddau i chi:

  • Arbed eich adnoddau
  • Lleihau’r baich gweinyddol
  • Cyrraedd dros 8,000 o brynwyr
  • Ennill cydnabyddiaeth a hygrededd o fewn y diwydiant
  • Nodi’r prynwyr sydd â diddordeb yn eich busnes

Fel yr arbenigwyr mewn cyn-gymhwyso gallwn eich helpu drwy’r broses o wneud cais.  I ymuno â Constructionline ac am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 0844 892 0313 neu ewch i www.constructionline.co.uk

Cofrestru

Ar ôl i chi gofrestru, bydd prynwyr yn gallu dod o hyd i'ch cwmni.

Cofrestrwch yma »

Mewngofnodwch »

Are you looking for potential Construction Opportunities?

Wyddoch chi?

Gallwch gofrestru aelodau eraill o'ch cwmni ar gwerthwchigymru er mwyn iddyn nhw allu derbyn e-bost dyddiol am gyfleoedd newydd, gweld yr hysbysiadau diweddaraf am dendrau ac ennill mwy o fusnes i chi. 

Pam na rowch chi rywun o'r adran Gyllid, Gwerthiannau neu Ddatblygu Busnes ar y rhestr?  I ychwanegu defnyddwyr newydd, mewngofnodwch ac ewch i Golygu'ch Proffil

Golygu'ch proffil