Mae GwerthwchiGymru yn rhoi mynediad uniongyrchol i chi i farchnad anferth o brynwyr ar draws Cymru.
Pob blwyddyn yng Nghymru, mae dros £3 biliwn yn cael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus gan y cannoedd o sefydliadau prynu a phrynwyr. O awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG, colegau a phrifysgolion, i Lywodraeth Cynulliad Cymru, maent i gyd yn defnyddio'r safle i gyhoeddi eu tendrau. Gan hynny, GwerthwchiGymru yw'r unig safle sydd angen arnoch chi i ddod o hyd i dendrau GIG Cymru, tendrau awdurdodau lleol Cymru a thendrau llywodraeth Cymru.
Os ydych am agor drysau a dod o hyd i dendrau sector cyhoeddus addas, dylai cofrestru ar GwerthwchiGymru fod yn flaenoriaeth. Gallwch gofrestru am ddim ac unwaith i chi ychwanegu proffil eich cwmni, mi allwch chi:
- Hyrwyddo eich cwmni i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru
- Chwilio drwy dendrau sector cyhoeddus Cymru
- Derbyn hysbysiadau e-bost oddi wrth dendrau addas yng Nghymru
- Cysylltu â chyrff sector cyhoeddus cofrestredig
- Chwilio am gyflenwyr a allai helpu chi i ddechrau ennill cytundebau
- Trafod arfer gorau dros dendro am dendrau llywodraeth yn y fforymau
- Cyrchu adnoddau sy'n rhoi cefnogaeth gyda thendrau
- Ffeindio allan ynglŷn â newyddion a digwyddiadau caffael diweddaraf Cymru