Sell2Wales

Beth yw'r Sector Cyhoeddus?

30 Gorffenaf 2010

Mae'r sector cyhoeddus yn gyfrifol am reoli'r cyflenwad nwyddau a gwasanaethau i'r Llywodraeth ac oddi wrth y Llywodraeth.

Yng Nghymru'n unig mae yna dros 100 o sefydliadau sector cyhoeddus, tra bod y sector cyhoeddus ar draws y DU yn cyflogi dros 25% o'r gweithlu. Mae cyrff sector cyhoeddus Cymru yn cynnwys:

  • adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth ganolog
  • y GIG a'u hymddiriedolaethau lleol
  • y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • llywodraeth Cynulliad Cymru,  Gweithrediaeth yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon
  • Awdurdodau Lleol
  • prifysgolion a cholegau

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella'r broses caffael ac mae'r holl gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hannog i ddefnyddio GwerthwchiGymru i dendro. O ganlyniad, mae tendrau sector cyhoeddus Cymru a enillwyd gan gwmnïau Cymru wedi codi'n ddramatig o 35% i 49% mewn dwy flynedd yn unig.

Cyflenwi'r sector cyhoeddus

Does dim ots pa wasanaethau neu nwyddau mae'ch busnes yn darparu,  mwy na thebyg bydd yna farchnad ar eu cyfer o fewn y sector cyhoeddus. Gwelwch fod cyrff sector cyhoeddus yn gwneud cwsmeriaid ardderchog gan eu bod:

  • yn gleientiaid sefydlog a well ganddynt berthnasau hirdymor
  • yn onest yn y modd y maent yn gwneud busnes
  • yn dalwyr dibynadwy, sydd fel arfer yn talu o fewn tymor 30 diwrnod
  • ar hyn o bryd yn gwario dros £3 biliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru
  • yn gwneud penderfyniadau prynu yn seiliedig ar werth am arian, nid yn unig y gost isaf

Darganfyddwch sut i werthu i'r sector cyhoeddus.

Cofrestru

Ar ôl i chi gofrestru, bydd prynwyr yn gallu dod o hyd i'ch cwmni.

Cofrestrwch yma »

Mewngofnodwch »

Are you looking for potential Construction Opportunities?

Wyddoch chi?

Gallwch gofrestru aelodau eraill o'ch cwmni ar gwerthwchigymru er mwyn iddyn nhw allu derbyn e-bost dyddiol am gyfleoedd newydd, gweld yr hysbysiadau diweddaraf am dendrau ac ennill mwy o fusnes i chi. 

Pam na rowch chi rywun o'r adran Gyllid, Gwerthiannau neu Ddatblygu Busnes ar y rhestr?  I ychwanegu defnyddwyr newydd, mewngofnodwch ac ewch i Golygu'ch Proffil

Golygu'ch proffil