Sell2Wales

Gwerthu i'r sector cyhoeddus

30 Gorffenaf 2010

I ennill tendrau sector cyhoeddus Cymru mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich proses gwerthu yn gywir.

Mae ennill cytundebau gyda'r sector cyhoeddus yn ffordd ardderchog i dyfu eich busnes. Sut bynnag, am bob cam o'r broses tendro mae yna faterion y dylech ystyried:

  • Hysbysiad Cytundeb - Os oes yna enw cyswllt yn yr hysbysiad, bydd yn ddefnyddiol i chi gysylltu â nhw gyda chwestiynau i sicrhau eich bod yn deall y gofyniad.
  • Amserlen - Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth yn erbyn dyddiadau penodol bob amser. Cofiwch y dyddiad a rhoddwyd yw'r dyddiad pan fydd y prynwr angen y wybodaeth, felly sicrhewch eu bod yn cyrraedd ar amser.
  • Cyn gymhwysiad (PQQ) - Os ydych wedi mynegi diddordeb mewn cytundeb ar GwerthwchiGymru, gofynnir i chi anfon gwybodaeth fel tystiolaeth o'ch sefyllfa ariannol, profiad blaenorol, a geirda. Bydd yn rhaid i chi ddarparu'r holl wybodaeth a gofynnir gennych gan fydd hyn yn ffurfio penderfyniad y prynwr a ddylech fynd ymlaen i'r cam nesaf neu beidio.
  • Gwahoddiad i dendro (ITT) - Os ydych yn derbyn gwahoddiad i dendro, rydych yn cael eich gwahodd i wneud cynnig. Rhestrir y meini prawf  penderfyniad yn ôl pa mor bwysig yr ydynt yn yr hysbysiad cytundeb neu'r ITT (trosglwyddiad, ansawdd, dull, personél a.y.b). Sicrhewch eich bod yn canolbwyntio ar y meini prawf pwysicaf tra eich bod yn darparu gwybodaeth berthnasol ddigonol ar y gweddill.
  • Sicrwydd Ansawdd - Mae'n bosibl bydd prynwr y sector cyhoeddus am asesu cyflenwyr yn erbyn safonau sicrwydd ansawdd. Os ydych mewn diwydiant ble mae asesiadau allanol yn beth normal, bydd yn helpu eich achos os oes gennych rhain yn ei le.

Cofrestru

Ar ôl i chi gofrestru, bydd prynwyr yn gallu dod o hyd i'ch cwmni.

Cofrestrwch yma »

Mewngofnodwch »

Are you looking for potential Construction Opportunities?

Wyddoch chi?

Gallwch gofrestru aelodau eraill o'ch cwmni ar gwerthwchigymru er mwyn iddyn nhw allu derbyn e-bost dyddiol am gyfleoedd newydd, gweld yr hysbysiadau diweddaraf am dendrau ac ennill mwy o fusnes i chi. 

Pam na rowch chi rywun o'r adran Gyllid, Gwerthiannau neu Ddatblygu Busnes ar y rhestr?  I ychwanegu defnyddwyr newydd, mewngofnodwch ac ewch i Golygu'ch Proffil

Golygu'ch proffil